'There was a real gutsiness about them' How the heiresses dubbed the 'dollar princesses' brought US flair to the UK.txt
Buddugoliaeth_gyfforddus_i_Gymru_yn_erbyn_Liechtenstein_-_BBC_Cymru_Fyw.txt
Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn LiechtensteinFfynhonnell y llun,bot para blaze Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Sgoriodd Joe Rodon ei g?l gyntaf dros ei wlad nos Wener ac mae'r amddiffynnwr bellach wedi chwarae 53 o weithiau dros GymruCyhoeddwyd6 Mehefin 2025Mae dechrau di-guro Cymru dan reolaeth Craig Bellamy yn parhau wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Liechtenstein nos Wener.3 - 0 oedd y sg?r terfynol gyda Joe Rodon, Harry Wilson a Kieffer Moore yn sgorio'r goliau.Sicrhaodd y fuddugoliaeth fod Cymru yn eistedd ar frig eu gr?p rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026, wedi i gêm rhwng Gwlad Belg a Gogledd Macedonia orffen yn gyfartal ar yr un noson.Dim ond enillwyr y gr?p fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r t?m sy'n gorffen yn ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle.Kpakio, 18, yr enw newydd yng ngharfan CymruCyhoeddwyd28 MaiGêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gogledd MacedoniaCyhoeddwyd25 MawrthGemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026: Cymru 3-1 KazakhstanCyhoeddwyd22 MawrthLlwyddodd t?m Craig Bellamy i ennill pedwar pwynt o'u dwy gêm gyntaf yn y gr?p fis Mawrth, gyda gêm gyfartal yng Ngogledd Macedonia a buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan yng Nghaerdydd.Roedd disgwyliadau yn uchel cyn y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, gyda'r ymwelwyr yn safle 205 ar restr detholion FIFA - ar bapur, dim ond llond llaw o wledydd trwy'r byd sy'n waeth na Liechtenstein.Cychwynnodd y gêm gyda Chymru yn rheoli ac yn cael nifer o gyfleoedd i sgorio, ond doedden nhw ddim yn arbennig o effeithiol yn y traean olaf.Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Sgoriodd Harry Wilson gyda'i ben wedi 65 munudEr gwaethaf y rhwystredigaeth gynnar, daeth y g?l gan Joe Rodon ar ?l 39 munud o chwarae, wrth iddo benio i gefn y rhwyd o gic gornel.Yn yr ail hanner cynyddu wnaeth y pwysau ar Liechtenstein, wrth i Harry Wilson sgorio gyda'i ben wedi 65 munud.Sgoriodd Kieffer Moore ar ?l 68 munud, a'r sg?r derfynol oedd 3-0 i Gymru.Mi fydd Cymru yn teithio i Frwsel i herio Gwlad Belg nos Lun - y gêm anoddaf yn y gr?p i Gymru ar bapur.Pynciau cysylltiedigPêl-droedChwaraeonT?m pêl-droed Cymru