Birmingham_bin_strike_Im_still_keeping_rubbish_in_the_hallway.txt
Gwlad_Belg_yn_curo_Cymru_o_drwch_blewyn_ar_noson_ddramatig_-_BBC_Cymru_Fyw.txt
Gwlad Belg yn curo Cymru o drwch blewyn ar noson ddramatigFfynhonnell y llun,jogos do pita Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Harry Wilson sydd wedi sgorio fwyaf dros Gymru o dan Craig BellamyCyhoeddwyd9 Mehefin 2025Mae Gwlad Belg wedi curo Cymru o 4 – 3 mewn gêm ddramatig a chofiadwy ym Mrwsel nos Lun.Yn y diwedd fe brofodd sêr mawr Gwlad Belg yn ormod i Gymru gan ddod a rhediad di-guro Craig Bellamy i ben.Mae Cymru bellach yn yr ail safle yn y gr?p ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026.Dim ond enillwyr y gr?p fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r t?m sy'n gorffen yn ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle.Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Brennan Johnson yn sgorio trydydd g?l CymruFe enillodd Gwlad Belg gic o'r smotyn ychydig ar ?l 10 munud a manteisiodd Lukaku ar y cyfle.Fe ddaeth ar ?l i ymgais Kevin De Bruyne daro braich Brennan Johnson yn y cwrt cosbi.Munudau'n ddiweddarach mae Tielemans yn bachu eu hail gyda g?l wych i'r gornel dde uchaf.Doku sy'n camu ar ei droed chwith i gipio'r trydydd ac o fewn hanner awr a Chymru heb wneud fawr o'i le roedd hi'n 3-0.Ond, eiliadau cyn hanner amser mae Cymru'n enill cig gosb eu hunain a Harry Wilson yn ei chladdu, 3-1. Cymru dal ynddi?Dechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf a thua 50 munud i mewn i'r gêm fe sgoriodd Sorba Thomas gan aildanio'r ornest.Roedd yna gyfleoedd ar ddwy ochr y cae a'r nesaf i ganfod cefn y rhwyd oedd Brennan Johnson. 3-3 gydag ugain munud yn weddill a chefnogwyr yn dechrau meddwl ai hon fydd y tro cyntaf i Gymru guro Gwlad Belg oddi cartref?Gyda dwy funud i fynd, fe chwalodd Kevin De Bruyne'r freuddwyd honno gan sgorio gydag ergyd cyntaf o groesiad hyfryd.Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Kevin De Bruyne yn sgorio yn y munudau olafFe wnaeth Bellamy dri newid i'r t?m wnaeth drechu Liechtenstein 3-0 yng Nghaerdydd nos Wener.Bu rhaid i Neco Williams adael y cae nos Wener yn dilyn anaf i'w goes felly'r amddiffynnwr canol cae Chris Mepham gamodd i'r adwy gyda Ben Davies yn symud i chwarae fel cefnwr chwith.Fe ddychwelodd Jordan James i ganol cae gyda David Brooks yn ychwanegu at yr ymosodwyr ar ?l i Liam Cullen a Kieffer Moore gael eu henwi ar y fainc.Ffynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Mae Cymru yn yr ail safle yn y gr?p ar gyfer y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026Mae Gwlad Belg bellach wedi ennill 42 gêm ragbrofol yn olynol.Y tro diwethaf i Wlad Belg golli mewn gêm ragbrofol oedd yn ?l yn 2015 ac yn erbyn Cymru oedd honno.Nos Lun oedd y ddegfed gêm rhwng y ddwy wlad ers 2012.Y tro diwethaf i Gymru guro Gwlad Belg oedd yn rownd wyth olaf Euro 2016 - efallai'r gêm bwysicaf a mwyaf cofiadwy erioed rhwng y ddwy wlad.Mae Cymru yn Gr?p J gyda Gogledd Macedonia, Liechtenstein, Kazakhstan a Gwlad Belg.Mi fydd gêm nesaf Cymru oddi cartref yn erbyn Kazakhstan ar 4 Medi.Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.Pynciau cysylltiedigPêl-droedChwaraeonT?m pêl-droed CymruStraeon perthnasolBuddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn LiechtensteinCyhoeddwyd6 MehefinKpakio, 18, yr enw newydd yng ngharfan CymruCyhoeddwyd28 MaiGêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gogledd MacedoniaCyhoeddwyd25 Mawrth